Rhif y ddeiseb: P-06-1489

Teitl y ddeiseb:  Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:  

Gwennoliaid duon yw'r adar cyflymaf wrth hedfan yn wastad a gallant gysgu, bwyta, yfed a pharu ar yr adain. Eu cri yw sŵn yr haf Cymreig. Yn anffodus, mae eu niferoedd yn gostwng yn gyflym – i lawr 72 y cant yn y 30 mlynedd diwethaf. Mae gwenoliaid duon yn nythu mewn tyllau mewn adeiladau. Mae gwaith adnewyddu’n amddifadu’r adar o’u cartrefi, ac nid oes ceudodau i’w cael mewn adeiladau newydd ar hyn o bryd. Heb fwy o opsiynau ar gyfer nythu, bydd gwenoliaid duon yn diflannu. Byddai ymgorffori briciau gwenoliaid duon ym mhob datblygiad newydd yn helpu gydag adferiad gwenoliaid duon (ac adar eraill sydd mewn trafferthion, megis gwenoliaid y bondo ac adar y to).

Mae data Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn dangos gostyngiad o 72 y cant yn niferoedd gwenoliaid duon Cymru rhwng 1995 a 2018. Maent ar y Rhestr Goch fel Adar o Bryder Cadwraethol. Mae gwenoliaid duon yn wynebu llawer o heriau, ond mae colli safleoedd nythu yn ffactor mawr. Oherwydd maint y dirywiad yng Nghymru, a dinistriad parhaus eu safleoedd nythu diymgeledd, dim ond dull gorfodol fydd yn sicrhau digon o leoedd nythu newydd fel y gall niferoedd gwenoliaid duon ddychwelyd i rywbeth tebyg i’w lefelau blaenorol. Ar gyfer hyn mae angen newid rheoliadol neu ddeddfwriaethol.

Mae briciau gwenoliaid duon yn flychau nythu y gellir eu hadeiladu i mewn i wal. Mae ganddynt safon y BSI, ac maent yn fforddiadwy, yn gynaliadwy, ac yn hawdd eu gosod. Nid oes angen eu cynnal na’u hamnewid, ac maent yn helpu i wrthdroi dirywiad adar eraill sy'n nythu mewn tyllau.

Mae bywydau gwenoliaid duon wedi’u cyplysu â’n bywydau ni ers canrifoedd. Mae cysylltiad yr aderyn hwn ag adeiladau i'w weld mewn hen enw amdano – gwrach yr eglwys. Mae gwenoliaid duon yn rhywogaeth garismatig; maent yn bywiogi ardaloedd adeiledig, gan ysbrydoli pobl a chymunedau. Maen nhw'n dibynnu arnom ni - byddai eu diflaniad yn golled wirioneddol.

 


1.        Cefndir

Aderyn awyrol sy'n bwydo ar infertebratau bach ac yn aml yn nythu mewn adeiladau ar lefel to wrth fagu cywion yw’r wennol ddu (Apus apus). Mae gwenoliaid duon yn ymfudwyr haf i’r DU, gan dreulio eu gaeafau yn Affrica.

Fel y mae’r deisebydd yn nodi, mae niferoedd y gwenoliaid duon wedi gostwng yn aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf - 62% rhwng 1995 a 2021. Gosododd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) y gwenoliaid duon ar Restr Goch y DU ar gyfer adar yn 2021 oherwydd dirywiad cynyddol yn y boblogaeth fridio.

Dywed yr RSPB o ran briciau gwenoliaid duon:

The bricks are an easy and cheap way to provide nest sites for Swifts that can be simply included in new housing developments or fitted into existing buildings. When they are, research shows they are help not only for Swifts, but other wildlife, including Red Listed species such as House Sparrows, Starlings and House Martins.

Cafodd deiseb i Senedd y DU, â’r teitl Make swift bricks compulsory in new housing to help red-listed birds’ 109,896 o lofnodion a chynhaliwyd dadl yn Neuadd San Steffan arni ar 10 Gorffennaf 2023.

Ymatebodd Llywodraeth y DU ar y pryd gan ddweud na fyddai’n deddfu i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr neu awdurdodau lleol ddefnyddio briciau gwenoliaid duon ym mhob datblygiad. Dywedodd:

We welcome actions by developers to provide “swift bricks”, however Government considers this a matter for local authorities depending upon the specific circumstances of each site.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi ysgrifennu at y Pwyllgor mewn cysylltiad â’r ddeiseb hon.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei fod yn deall bod briciau gwenoliaid duon yn gweithio ac yn darparu cyfleoedd i rywogaethau eraill. Mae’n dweud eu bod yn fforddiadwy, nad oes angen gwaith cynnal a chadw arnynt ac “mae'n gwneud synnwyr i’w cynnwys yn rhan o strwythur adeiladau newydd wrth fynd ati i’w dylunio a'u hadeiladu”.

Fodd bynnag, mae'n nodi mai'r prif fecanweithiau i hyrwyddo neu orfodi'r defnydd o friciau gwenoliaid du mewn adeiladau newydd yw'r Rheoliadau Adeiladu a’r system gynllunio. Mae’r rhain yn dod o dan bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS. Mae hefyd yn nodi gwaith adeiladu a ariennir neu a gaffaelwyd gan Lywodraeth Cymru fel mecanwaith pwysig arall. Daw i’r casgliad:

Felly, bydd angen gweithredu ar draws y Cabinet i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu cynnwys mewn adeiladau newydd ledled Cymru. Rwy’n cefnogi hynny ac rwy’n awyddus i archwilio’r mater gyda fy nghydweithwyr yn y Cabinet.

Yn ei lythyr, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru y mae’n credu y bydd yn cefnogi gwenoliaid duon a rhywogaethau eraill, gan gynnwys:

§    Bydd y Bil Llywodraethu Amgylcheddol, Egwyddorion Amgylcheddol a Thargedau Bioamrywiaeth arfaethedig yn cynnwys pŵer a dyletswydd i Weinidogion Cymru osod targedau bioamrywiaeth domestig statudol. Mae'n dweud bod y meysydd blaenoriaeth bwriedir rhoi blaenoriaeth iddynt, sef diogelu ac adfer rhywogaethau, a sicrhau bod ecosystemau’n wydn, yn golygu y bydd potensial ar gyfer gweithredu i gefnogi poblogaethau gwenoliaid duon.

§    Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau ychwanegol ar sut i weithredu er Budd Net i Fioamrywiaeth a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru sy’n gofyn am atebion pwrpasol, yn seiliedig ar le ar gyfer bioamrywiaeth, gan gynnwys mesurau fel briciau gwenoliaid duon lle bo’n briodol. Mae'n dweud y dylai'r canllawiau gael eu cwblhau erbyn gwanwyn 2025.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Codwyd mater mandadu bocsys gwenoliaid duon yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Mehefin 2021 gan Jenny Rathbone AS. Ymatebodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, Julie James AS, drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn eu hymgorffori yn ei Rhaglen Tai Arloesol, gyda briciau gwenoliaid duon cyflym “yn mynd i fyny ar nifer o dai cymdeithasol ledled Cymru”. Dywedodd hefyd fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, Lee Waters AS, yn “edrych ar fioamrywiaeth ar hyd llwybrau ffyrdd a llwybrau rheilffyrdd, gan gynnwys ymgorffori blychau gwenoliaid duon a blychau nythu eraill fel y bo'n briodol ar hyd y llwybrau hynny.”

Mewn ymateb i gwestiwn gan Jenny Rathbone MS yn Cyfarfod Llawn ar 4 Rhagfyr 2024, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS, fod briciau gwenoliaid duon wedi’u cynnwys yn y datblygiadau a ariannwyd o dan y Rhaglen Tai Arloesol, o’r dyddiad y cytunodd y Gweinidog blaenorol i wneud hynny nes i’r rhaglen honno ddod i ben. Ymrwymodd hefyd i ystyried mandadu briciau gwenoliaid du mewn tai cymdeithasol yn y dyfodol:

Mae ein safon adeiladu tai cymdeithasol newydd, gofynion ansawdd datblygu Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau ystyried bioamrywiaeth, sydd wedi golygu bod briciau gwenoliaid yn cael eu defnyddio gan lawer o landlordiaid cymdeithasol yn eu datblygiadau newydd. Mae disgwyl i ofynion ansawdd datblygu Cymru gael eu hadolygu yn 2025, a byddwn yn ystyried y defnydd gorfodol o friciau gwenoliaid fel rhan o'r adolygiad hwn.

Jenny Rathbone AS yw hyrwyddwr rhywogaethau Cyswllt Amgylchedd Cymru ar gyfer y gwenoliaid duon.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.